Bydd di yn ymborth pur
Yr unig noddfa bur

(Trysor Marwol glwyf)
  Yr unig noddfa bur
    I'm henaid ddydd a nos,
  A'm holl ddyddanwch gwir
    Sy'n tarddu o waed y groes:
Dystewi wnaf -
      mae trysor mwy
Na fedd y byd mewn marwol glwy'.

  Llawn Haleliwia mwy
    I Frenin nef a llawr!
  Dyoddefodd farwol glwy'
    I'm dwyn o'r cystudd mawr!
Nis gallaf byth ddymuno mwy
Na'r trysor sydd
      mewn marwol glwy'.

  Fe fydd y nef ar dân,
    O fawl i Brynwr byd;
  Y saint a'r engyl glân,
    A'i molant Ef ynghyd;
Cydunwn ninau gyda hwy
I foli'r hwn ga'dd farwol glwy.
1,2: Casgliad o dros 2000 o Hymnau (S Roberts) 1841
3 : Robert Jones 1806-96
- - - - -
(Diddanwch trwy waed y groes)
1,2,(3).
  Bydd di yn ymborth pur
    I'm henaid ddydd a nos;
  Fy holl ddiddanwch gwir
    Fo'n tarddu
          o waed y groes;
Distewi wnaf; mae trysor mwy
Nag fedd y byd mewn marwol glwy'.

  Na flined f'enaid llaith,
    Er lleied yw dy rym,
  'Dall dyfais uffern faith,
    Na phechod wneuthur dim;
Ar Galfari fe'u maeddwyd hwy;
Torwyd eu nerth
      â marwol glwy.

  Mae llwybr hyfryd iawn
    O'r ddae'r i'r nefoedd fry,
  Agorwyd un prydnawn
    Ar fynydd Calfari;
Myrdd o fendithion maith ynghyd
A ddug y groes i anial fyd.
William Williams 1717-91
Llyfr Hymnau (Calfinaidd) 1876

Tôn [666688]:
Haddam (Lowell Mason 1792-1872)
Normandy (alaw Seisnig)

gwelir:
  Disgleiria fore wawr
  Mae caru Mhrynwr mawr
  O dychwel Arglwydd mawr

(The Treasure of a Mortal Wound)
  The only pure refuge
    For my soul day and night,
  And all my true comfort
    Springs from the blood of the cross:
I will be silent -
      there is greater treasure
Than the world possesses in a mortal wound.

  Full Hallelujah evermore
    To the King of heaven and earth!
  He suffered a mortal wound
    To bring me from the great tribulation!
I can never desire more
Than the treasure there is
      in a mortal wound.

  Heaven will be on fire,
    From praise to the world's Redeemer;
  The saints and the holy angels,
    Shall praise Him together;
Let us too join with them
To praise him who got a mortal wound.
 
 
- - - - -
(Comfort through the blood of the cross)
 
  Be thou pure sustenance
    To my soul day and night;
  All my true comfort
    Be springing from
          the blood of the cross;
I will be silent; there is greater treasure
Than the world possesses in a mortal wound.

  Let not my feeble soul be exhausted,
    Despite how small is thy strength,
  No scheme of vast hell,
    Nor sin, can do anything;
On Calvary they were beaten;
Their strength was broken
      with a mortal wound.

  The path is very delightful
    From the earth to heaven above,
  It was opened one afternoon
    On mount Calvary;
A myriad of vast blessings together
The cross shall bring to a desert world.
tr. 2017 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~